Cigydd traddodiadol yw Edwards o Gonwy sydd wedi ei leoli yn nhref hanesyddol Conwy. Mab fferm o Lanrwst yw Ieuan Edwards. Gweithiodd Ieuan fel prentis mewn siop gig yn Llanrwst. Yna, aeth yn ei flaen i gyflawni cyrsiau arbenigol yn yr Y Swisdir a'r Iseldiroedd.
Agorodd Ieuan ei siop gig gyntaf pan oedd yn 20 oed ac yn 2004 fe aeth yn ei flaen i agor ffatri selsig. Erbyn hyn mae'n cyflogi tua 40 o weithwyr. Mae llwyddiant Ieuan wedi ei seilio ar ddarparu a gwerthu cig o safon yn unig.
Gwobrau
Ieuan yn derbyn tlws y Llys Gennad "Gwir Flas" gan y Gweinidog Mr Carwyn Jones
Ym mis Tachwedd 2005 fe dderbynniodd Ieuan y fraint o gael ei enwi yn Lys Gennad bwyd Cymru y “Gwir Flas”.
Maent hefyd wedi llwyddo i gael tystysgrif arbennig y "Q Guild" dros gyfnod o 13 mlynedd. Bu Ieuan yn Gyfarwyddwr o'r "Q Guild Cyf" am ddwy flynedd yn ystod y cyfnod yma.
Hefyd yn 1994/95 a 2002 fe enillodd y siop wobr "Top Shop" yng Nghymru. Rydym hefyd wedi ennill cynifer o wobrau eraill, gan gynnwys:-
Pencampwriaeth Selsig Gogledd Cymru, hefyd Cymru gyfan.
Gwobrau aur ac arian yn Ewrop.
Gwobr Anturiaeth Comisiwn Cig Da 1998 & 2000, ac amryw o wobrau aur yn "Smithfield"
Gwobr aur 2002/3 "Gwir Flas" am y siop orau drwy Gymru, hefyd yn y flwyddyn ganlynol 2003/4.
Oen Y Glasdraeth
Yr ydym hefyd yn darparu cig Oen y Glasdraeth o ardaloedd hallt Conwy, Harlech a Phortmeirion hefyd Ynys Mon. Danteithfwyd unigryw ydyw, sy'n cael ei alw gan y Ffrancwyr yn "d'Agneau Pre Salé". Mae'r wyn yn pori ar y glaswellt sydd yn aml wedi ei orchuddio a dwr hallt y mor. Dulliau traddodiadol ac organig o ffermio sy'n cael ei defnyddio. Mae'r wyn felly'n cael deiat naturiol gan gynnwys glaswellt cynhenid "Sparta".
Mae Oen y Glasdraeth ar gael rhwng mis Mehefin a mis Medi.
Un o gefnogwyr brwd oen y glasdraeth yw’r cogydd enwog Rick Stein.
Ein Staff
Mae rhan helaeth o’r tim wedi bod gyda’r cwmni ers blynyddedd bellach, yn eu plith mae Dave Malloy sef rheolwr cyffredinol y siop. Mae Dave wedi bod gyda ni ers y dechrau. Mae'n gyfrifol am ddatblygu cynnyrch newydd, marchnata lleol, paratoi'r cig a sicrhau safonau.
Yn ogystal a chigyddion profiadol rydym hefyd yn cyflogi cogyddion sy'n cydweithio'n agos a'r cigyddion er mwyn datblygu syniadau newydd.